Your cart is currently empty!

Ffurf i roddi
Os gwelwch yn dda, peidiwch ag anfon arian parod drwy’r post.

Trwy Siec
Os ydych chi am gyfrannu drwy siec, gwnewch hi’n daladwy i Centre of Sign Sight Sound. Os ydych chi’n drethdalwr yna cwblhewch y ffurflen Cymorth Rhodd a’i hanfon i’r cyfeiriad canlynol:
Adran Gyllid
Centre of Sign Sight Sound
77 Ffordd Conwy
Bae Colwyn
LL29 7LN
Peidiwch ag anfon rhoddion arian parod yn y post o dan unrhyw amgylchiadau.
Arian Nawdd
Download – Sending your money Form
Download – Sponsorship Form
Talu drwy Drosglwyddiad Banc (BACS)
Os hoffech anfon eich arian atom drwy drosglwyddiad banc i fanc (BACs), anfonwch e-bost i finance@cos.org.uk am y manylion priodol. Fe roddwn ni gopi o’r ffurflen Anfon Eich Arian i chi hefyd. Pan wnewch chi y drosglwyddiad, dylai eich banc roi derbynneb i chi fel prawf o daliad, ond bydd cwblhau a dychwelyd y ffurflen yn ein helpu i gadarnhau ein bod wedi derbyn eich taliad a bydd yn ein galluogi i ddweud diolch am eich gwaith caled a’ch cefnogaeth.
Rhoddion Er Cof
Mae rhoddion Er Cof yn rhan bwysig o sut rydym yn gwella bywydau’r bobl hynny rydym yn eu helpu bob dydd yn COS. Dyma rai o’r ffyrdd y gallwch wneud rhoddion er cof am rywun yr hoffech ei ddathlu.
Gofyn am Roddion yn lle Blodau
Mae talu teyrnged i’ch anwylyd drwy ofyn am roddion i COS yn lle blodau wedi dod yn ddull poblogaidd iawn o roi rhoddion Er Cof. Bydd trefnwyr angladdau fel arfer yn hapus i helpu gyda chasglu rhoddion ac anfon rhoddion ymlaen i COS.
Mae manylion ar gyfer talu drwy siec neu drosglwyddiad banc i’w gweld uchod.
Etifeddiaeth
Mae gadael gwaddol yn rhodd ystyrlon iawn. Cysylltwch â ni i ddarganfod sut allwch chi wneud hyn.