Live Well with Hearing Loss

Cefnogi pobl i aros mor annibynnol â phosibl.

Mae tîm Live Well yn darparu gwybodaeth a chyngor am gymhorthion ac offer sy’n cefnogi pobl â cholled clyw i aros mor annibynnol â phosibl yn eu cartrefi.

Cyngor diduedd

Efallai eich bod chi neu berthynas yn cael trafferth gwybod bod rhywun wrth y drws, yn clywed y teledu, neu’n deffro ar amser penodol, gall y tîm ddangos ystod o gymhorthion, rhoi benthyg offer i chi roi cynnig arno cyn prynu neu wneud atgyfeiriad i awdurdodau lleol (gwasanaethau cymdeithasol).

Gan ddarparu cefnogaeth i bobl sydd wedi cael diagnosis o golled clyw yn ddiweddar, gall ein tîm roi cymorth gyda sut i ofalu am gymhorthion clyw ac esbonio sut y gallant weithio gyda rhai apiau. Rydym yn deall sut y gall colli clyw effeithio arnoch yn gyffredinol, felly gallwn roi gwybodaeth i’ch galluogi i reoli eich taith colli clyw gan weithio trwy’r 5 ffordd at Les.

Slide

“Mae Ellie wedi bod o gymorth mawr i mi wrth ymdopi â’m colli clyw. Ni allaf ddiolch digon i COS ac Ellie yn benodol am yr holl gymorth a roddwyd.”

Martin, Caerdydd

previous arrow
next arrow
Shadow

“Mae Ellie wedi bod o gymorth mawr i mi wrth ymdopi â’m colli clyw. Ni allaf ddiolch digon i COS ac Ellie yn benodol am yr holl gymorth a roddwyd.”

“Mor falch o drafod a chael fy neall am fy anawsterau…Dull mor gyfeillgar a a phwyllog…gwybodus iawn ym mhob agwedd.”

“Rydw i nawr yn gallu clywed fy nghloch drws fy hun a fy ffôn. Mae’r offer a ddarperir yn hawdd iawn i’w osod a’i ddefnyddio.”

Ychydig o’r offer y gall ein tîm ei arddangos

Clychau drws yn fflachio neu’n dirgrynu

Gwrandawyr teledu

Gallwn ni roi cyngor ar amrywiaeth o ddyfeisiau a fydd yn dod â’r pleser o wylio’r teledu gyda’ch gilydd neu osgoi ymdrechu i glywed.

Gwrandawyr personol

Technoleg syml a fydd yn eich helpu i gael eich cynnwys yn y sgwrs unwaith eto.

Clociau larwm dirgrynol

Gan roi’r hyder yn ôl i chi ni fyddwch yn cysgu drwy’r larwm.

Gwasanaethau Ôl Diagnostig

Mae ymchwil wedi dangos y gall colli clyw gael effaith sylweddol ar les. Dyma rai enghreifftiau o sut:  

  • Methu cysylltu â ffrindiau a theulu yn yr un modd oherwydd problemau yn dilyn sgyrsiau.  
  • Cael trafferth clywed y teledu neu’r radio ac felly rhoi’r gorau i wylio hoff raglenni.

Mae ein Cynghorwyr Ôl Diagnostig yma i’ch helpu chi i wneud addasiadau bach sy’n cael effaith fawr ar ansawdd eich bywyd. Mae nhw’n darparu cymorth, cyngor ac yn gwneud argymhellion wedi’u teilwra i’ch anghenion.

“Ar ôl fy helpu gyda gosod fy nghymhorthion clyw a’r ap BeMore, rwyf bellach yn gallu cymdeithasu’n well mewn amgylcheddau swnllyd. Gallaf glywed y teledu’n well ac rwy’n gallu dal dechrau a diwedd geiriau mewn rhai sgyrsiau’n well. Rhoddwyd y wybodaeth mewn modd tawel a dibynadwy. Diolch.”

Rydym yn gweithio’n agos gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol, Awdioleg a sefydliadau trydydd sector ledled Cymru a gallwn eich cyfeirio ymhellach am gymorth neu wybodaeth ychwanegol gan sefydliadau eraill.  

Partneriaid

Tîm