Gwasanaethau Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth

Cefnogaeth i wneud penderfyniadau gwybodus

Rhywfaint o’r gefnogaeth rydyn ni’n ei chynnig

Rydym yn mabwysiadu dull cyfannol, gan gefnogi unigolion yn ôl eu hanghenion penodol. Mae ein meysydd arbenigedd yn cynnwys:

Gwiriadau Budd-dal
Cefnogi’r rhai sydd â nam ar eu synhwyrau i wirio hawliau, cwblhau ffurflenni, cael cyflogaeth trwy Working Sense, cefnogaeth wrth gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau, y Cyngor lleol, adrodd am newidiadau a chyngor cyffredinol.
Cyfieithu gohebiaeth ysgrifenedig
Rydym yn deall y gall Cymraeg ysgrifenedig fod yn gymhleth i rai o’n cwsmeriaid. Gall IAA gefnogi gyda chyfieithu llythyrau i BSL.
Gwneud galwadau ffôn â chymorth
Cefnogi cwsmeriaid i gysylltu ag amrywiaeth o wasanaethau, busnesau a sefydliadau a hyrwyddo cyfathrebu hygyrch.
Cefnogaeth Arall
Sicrhau bod pobl yn deall eu hawliau, yn cael mynediad at y cymorth cywir a’r wybodaeth gywir i wneud penderfyniadau gwybodus.

Partneriaid

Tîm