Hyfforddiant, Addysg ac Ymgynghoriaeth

Rhoi’r sgiliau i bobl ddeall anghenion pobl â Nam ar y Synhwyrau.

Course participant finger spelling

Cyrsiau BSL Achrededig

Mae gennym nifer o gyrsiau Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar gael. Os ydych chi’n newydd i BSL ac eisiau cyflwyniad sylfaenol neu os ydych chi’n rhyngweithio â phobl Fyddar yn rheolaidd ac eisiau cyrsiau achrededig, mae COS yma i’ch helpu a’ch cefnogi.

Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Nam ar y Synhwyrau

Cyrsiau dysgu ar-lein pwrpasol wedi’u creu yn arbenig i’ch anghenion trwy System Rheoli Dysgu hawdd ei defnyddio.

Gellir dilyn y cwrs unigryw hwn yn Gymraeg, Saesneg neu BSL. Mae ganddo hefyd ddarpariaeth Sain sy’n caniatáu i bobl â nam ar y synhwyrau gymryd rhan hefyd.Bespoke online learning courses tailored to your needs through an easy to use Learning Management System.

Translating a written document on behalf of a Deaf client.

Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Fyddardod

Mae Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Fyddardod wedi’i addasu i’ch anghenion a lefel y rhyngweithio â’r gymuned Fyddar.

Cwestiynau cyffredin:

Beth yw Nam ar y Synhwyrau?


Term cyffredinol am golled rannol neu lwyr un neu fwy o’r synhwyrau, gan gynnwys golwg, clyw, arogl, blas, cyffyrddiad, ac ymwybyddiaeth ofodol.

Beth yw BSL?

Iaith Arwyddion Prydain. Mae wedi bod yn iaith gydnabyddedig ers 2019.

Sut mae’r hyfforddiant ar-lein yn gweithio?

Mae’r unedau yn galluogi y cyfranogwyr i astudio ar eu cyflymder eu hunain, eu ail adrodd, a mae’r cwestiunau ar ddiwedd pob uned yn sicrhau dealltwriaeth.

Yr hyn sy’n unigryw am y cwrs yw y gellir ei gymryd yn Gymraeg, Saesneg neu BSL ac mae ganddo ddarpariaeth sain sy’n golygu bod y rhan fwyaf o bobl â nam ar y synhwyrau bellach yn gallu cymryd rhan yn yr hyfforddiant hwn.

Mae gan y cwrs farc ansawdd sy’n golygu ei fod yn cymhwyso myfyrwyr i bwyntiau DPP.

Pwy sy’n achredu’r hyfforddiant?

Mae’r cyrsiau wedi’u hachredu gan Addysg Oedolion Cymru ac Agored.

Pa mor hir yw’r cyrsiau?

Sesiwn ymwybyddiaeth colli synhwyraidd 1 awr ar-lein, 3 awr Ymwybyddiaeth o Fyddardod a thactegau cyfathrebu, cwrs BSL achrededig 10 wythnos.

Ydych chi’n addysgu unigolion?

Mae’n cyrsiau yn agored i bawb, ond ein harbenigedd yw hyfforddiant corfforaethol.

Tîm