Your cart is currently empty!

Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Nam ar y Synhwyrau
Sgiliau i ddeall anghenion pobl â Nam ar y Synhwyrau.

Ar-lein: Dysgu gyda Dysg-e
Mae Dysg-e a COS wedi dod at ei gilydd i gynhyrchu pecynnau dysgu Nam ar y Synhwyrau ar-lein sydd wedi’u creu’n arbennig ar gyfer eich anghenion trwy System Rheoli Dysgu hawdd ei defnyddio.
Yr hyn sy’n unigryw am y cwrs yw y gellir ei gymryd yn Gymraeg, Saesneg neu BSL ac mae ganddo ddarpariaeth sain sy’n golygu bod y rhan fwyaf o bobl â nam ar y synhwyrau bellach yn gallu cymryd rhan yn yr hyfforddiant hwn.
Mae gan y cwrs farc ansawdd sy’n golygu ei fod yn cymhwyso myfyrwyr i bwyntiau DPP.
Ein Cyrsiau Ar-lein
Ymwybyddiaeth o Nam ar y Synhwyrau
1 awr o ddysgu ar-lein
Ymwybyddiaeth o Fyddardod i Blant
15 munud o ddysgu ar-lein
Pam Dewis Ni?
Rydym yn gweithio gyda chi i greu profiad dysgu pwrpasol sy’n addas i’ch diwydiant a’ch anghenion.
Cyrsiau aml-iaith gan gynnwys BSL i ddefnyddwyr IAP Byddar a darpariaeth sain i bobl â nam ar eu golwg.
Cymorth athro yn bersonol os oes angen