Live Well with Hearing Loss

Cefnogi pobl i aros mor annibynnol â phosibl.

Cyngor diduedd

Mae tîm Live Well yn darparu gwybodaeth a chyngor am gymhorthion ac offer sy’n cefnogi pobl â cholled clyw i aros mor annibynnol â phosibl yn eu cartrefi.

Efallai eich bod chi neu berthynas yn cael trafferth gwybod bod rhywun wrth y drws, yn clywed y teledu, neu’n deffro ar amser penodol, gall y tîm ddangos ystod o gymhorthion, rhoi benthyg offer i chi roi cynnig arno cyn prynu neu wneud atgyfeiriad i awdurdodau lleol (gwasanaethau cymdeithasol).

Gan ddarparu cefnogaeth i bobl sydd wedi cael diagnosis o golled clyw yn ddiweddar, gall ein tîm roi cymorth gyda sut i ofalu am gymhorthion clyw ac esbonio sut y gallant weithio gyda rhai apiau. Rydym yn deall sut y gall colli clyw effeithio arnoch yn gyffredinol, felly gallwn roi gwybodaeth i’ch galluogi i reoli eich taith colli clyw gan weithio trwy’r 5 ffordd at Les.

Rydym yn gweithio’n agos gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol, Awdioleg a sefydliadau trydydd sector ledled Cymru a gallwn eich cyfeirio ymhellach am gymorth neu wybodaeth ychwanegol gan sefydliadau eraill.  

“Mae Ellie wedi bod o gymorth mawr i mi wrth ymdopi â’m colli clyw. Ni allaf ddiolch digon i COS ac Ellie yn benodol am yr holl gymorth a roddwyd.”

“Mor falch o drafod a chael fy neall am fy anawsterau…Dull mor gyfeillgar a a phwyllog…gwybodus iawn ym mhob agwedd.”

“Rydw i nawr yn gallu clywed fy nghloch drws fy hun a fy ffôn. Mae’r offer a ddarperir yn hawdd iawn i’w osod a’i ddefnyddio.”

Ychydig o’r offer y gall ein tîm ei arddangos

Eich helpu i ddewis

Clychau drws yn fflachio neu’n dirgrynu

Gwrandawyr teledu

Gallwn ni roi cyngor ar amrywiaeth o ddyfeisiau a fydd yn dod â’r pleser o wylio’r teledu gyda’ch gilydd neu osgoi ymdrechu i glywed.

Gwrandawyr personol

Technoleg syml a fydd yn eich helpu i gael eich cynnwys yn y sgwrs unwaith eto.

Clociau larwm dirgrynol

Gan roi’r hyder yn ôl i chi ni fyddwch yn cysgu drwy’r larwm.

Gwasanaethau Ôl Diagnostig

Mae ymchwil wedi dangos y gall colli clyw gael effaith sylweddol ar les. Dyma rai enghreifftiau o sut:  

  • Methu cysylltu â ffrindiau a theulu yn yr un modd oherwydd problemau yn dilyn sgyrsiau.  
  • Cael trafferth clywed y teledu neu’r radio ac felly rhoi’r gorau i wylio hoff raglenni.

Mae ein Cynghorwyr Ôl Diagnostig yma i’ch helpu chi i wneud addasiadau bach sy’n cael effaith fawr ar ansawdd eich bywyd.

Mae ein Cynghorwyr Ôl-ddiagnostig yn darparu cymorth, cyngor ac argymhellion wedi’u teilwra i’ch anghenion.

Partneriaid

Tîm