Your cart is currently empty!
Ffion Mon Roberts
Swyddog Cefnogi Cyfathrebu
Gyda phrofiad byw o gefnogi’r gymuned Fyddar, yn COS, mae Ffion yn helpu pobl Fyddar i gael mynediad cyfartal at wybodaeth a gwasanaethau iechyd trwy brosiectau Cyngor a Chymorth Iechyd a Gwybodaeth Hygyrch gan gyfieithu’n gyfforddus rhwng Saesneg, Cymraeg, Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ac iaith arwyddion Cymraeg yr IAC.
Fel Arbenigwr Cymorth Addysg yn IAC, mae hi’n ymweld ag ysgolion Gogledd Cymru, i helpu plant gael profiad o ddefnyddio iaith arwyddion drwy Phrosiect Abi.
Gan gael ei magu ar Ynys Môn o amgylch teulu Byddar, cyflwynwyd Ffion i Iaith Arwyddion Prydain yn ifanc iawn, ac mae hi hefyd yn ei defnyddio i gyfathrebu â’i phartner, sydd hefyd yn ddefnyddiwr Iaith Arwyddion Prydain Byddar.
Ar ôl dechrau gweithio yn COS yn 2021 fel Gweithiwr Cymorth Cyfathrebu, mae Ffion yn parhau i ddatblygu ei sgiliau, gan astudio ar hyn o bryd ar gyfer ei chymhwyster cyfieithu Lefel 6.
Yn ei hamser hamdden, mae Ffion yn mwynhau treulio amser gyda’i theulu ac mae hi’n hoff iawn o’i 2 gath. Fel arfer, fe welwch hi’n ymlacio yn y “Catio” gyda nhw.
