Working Sense

Cefnogi pobl i gael mynediad i fyd gwaith.
Darparu cymorth arbenigol i alluogi’r grŵp targed i ddechrau/ail-ymuno a chynnal cyflogaeth, neu symud yn nes at gyflogaeth gan ddefnyddio dull un-i-un cyfannol gan ddefnyddio ein staff prosiect dynodedig.
Bydd Working Sense yn gweithio’n benodol gyda phobl dros 25 oed sydd â nam ar y synhwyrau (h.y. pobl F/fyddar neu sydd â cholled clyw a phobl sy’n ddall neu sydd â nam ar eu golwg) neu anabledd, sy’n byw yng Nghonwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Ariennir y prosiect hwn gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Sut mae Working Sense yn cefnogi pobl?
Gydag amrywiaeth o ymyriadau wedi’u teilwra i anghenion ac amgylchiadau’r unigolyn, megis magu hyder, sgiliau galwedigaethol, cymorth ymarferol megis ysgrifennu CV, cyfweliadau ffug, hyfforddiant trafnidiaeth a buddion, yn ogystal â chanlyniadau penodol ar gyfer y rhai sy’n gadael y rhaglen, gallai fod:
Pwy rydyn ni’n eu cefnogi
I fod yn gymwys i weithio gyda Working Sense, rhaid i fuddiolwyr:
Fod dros 25 mlwydd oed
Fod a anabledd neu gyflwr iechyd sy’n effeithio ar eich gallu i weithio
Byw yng Nghonwy, Sir Ddinbych neu Sir y Fflint
Bod yn economaidd anweithgar (e.e. ddim mewn cyflogaeth)









