Stephanie Evans


Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Busnes

Mae Steph yn rhan o’r Uwch Dîm Rheoli yma yn COS.Mae ei phrofiad blaenorol fel Rheolwr Gweithrediadau a Rheolwr Prosiect wedi dod ag agwedd newydd at reoli’r swyddfa o ddydd i ddydd, ac mae’n parhau i symleiddio prosesau ac ysgogi gwelliannau. Fel Pennaeth Gwasanaethau Cefnogi Busnes ac Adnoddau Dynol mae Steph yn gweithio gyda’r holl staff ar draws yr holl brosiectau a hi hefyd yw’r person penodedig ar gyfer Iechyd a Diogelwch a Chymorth Cyntaf.

Ers ymuno â’r sefydliad yn 2017, mae Steph wedi cymhwyso fel hyfforddwr YMHFA a sgiliau uwch BSL Lefel 3. Mae codi arian hefyd ar ei hagenda gan ei bod wedi rhedeg dau farathon rhithwir Llundain yn flaenorol i godi arian ar gyfer COS.
 
Yn ei hamser hamdden mae Steph yn mwynhau treulio amser gyda’i theulu a’i ffrindiau ac wrth ei bodd yn mynd i wylio ei mab yn chwarae pêl-droed.