Hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Gwella cyfathrebu â phobl sy’n Fyddar neu sydd â cholled clyw.
Mae gennym nifer o gyrsiau Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar gael. Os ydych eisiau cyflwyniad sylfaenol i BSL neu yn cydweithio â phobl Fyddar yn rheolaidd ac eisiau cyrsiau achrededig, mae COS yma i’ch helpu a’ch cefnogi.
Sesiwn Blasu Tair Awr BSL
Mae’r sesiwn flasu hon yn rhoi cyfle i gyfranogwyr ddatblygu eu sgiliau sillafu bysedd, a dysgu’r eirfa cwrdd a chyfarch sylfaenol yn Iaith Arwyddion Prydain. Mae’r pynciau dan sylw yn cynnwys arwyddion cwestiwn a rhifau sylfaenol, gan roi’r sgiliau i’r myfyrwyr gynnal sgwrs sylfaenol mewn BSL.
Cysylltwch i archebu cwrs neu am ragor o wybodaeth.

Cwrs BSL Achrededig
Cyflwyniad i Iaith Arwyddion
Agored Lefel 1 – 3 credydau
20 Awr drop over 10 Wythnos
Mae’r cwrs achrededig hwn yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau gan gynnwys sillafu â bysedd sylfaenol, ymadroddion cwrdd a chyfarch, arwyddion cwestiynau, rhifau (gan gynnwys arian, oedran ac amser), emosiynau sylfaenol a chyflwyniad i ddiwylliant Byddar.
Cysylltwch i archebu cwrs neu am ragor o wybodaeth.
Ardystiad
Ar ôl cwblhau’r cwrs, fe gaiff pawb a gymerodd rhan dystysgrif sy’n berthnasol i’w cwrs.
Tîm
Stephanie Evans
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymorth Busnes
Angela Davies
Arbenigwr Cymorth Addysg
Debbie Bennett
Arbenigwr Cefnogi
Dawn Sommerlad
Swyddog Datblygu Hyfforddiant
Ffion Môn Roberts
Arbenigwr Cefnogi





