Your cart is currently empty!
Helen Pugh
Cynghorydd Cyflogaeth
Mae Helen yn derbyn atgyfeiriadau i ymweld â phobl yn eu cartrefi a gwneud addasiadau i helpu nhw i glywed pethau o’u cwmpas yn haws. Mae Helen yn angerddol am ei gwaith ac yn parhau i adeiladu ar y profiad a gafwyd o weithio gyda llawer o asiantaethau eraill i gael y gwasanaethau a’r gefnogaeth gywir ar waith i bobl.
Cyn symud i COS, gweithiodd Helen i’r RNID am bron i 10 mlynedd ar amrywiaeth o brosiectau.
Mae Helen yn gredwr mawr mewn cefnogaeth unigol sy’n canolbwyntio ar y person ac mewn addysgu cymunedau ar sut i gefnogi pobl â cholled clyw yn well.
Y tu allan i’r gwaith, mae gan Helen ddau fachgen bach gweithgar iawn sy’n sicr yn ei chadw ar flaenau ei thraed a chath sinsir a gwyn o’r enw Enid. Mae Helen wrth ei bodd â bywyd gwyllt, potsio yn yr ardd ac awyr iach.
