Kerry Scanlon

Cynghorydd Cartref Live Well

Kerry yw’r Cynghorydd Gartref yng Ngogledd Cymru, yn cymryd atgyfeiriadau i ymweld â phobl yn eu cartrefi a gwneud addasiadau i helpu i glywed pethau o’u cwmpas yn haws.
 
Dechreuodd Kerry weithio yn Canolfan Sain Golwg Arwyddion yn 2001, gan gefnogi staff a chymryd rolau ychwanegol sydd wedi cynnwys Swyddog Cefnogi Teuluoedd un o siroedd Gogledd Cymru.
 
Yn 2020, daeth Kerry yn Gydlynydd Gwirfoddolwyr gyda’r Prosiect Live Well with Hearing Loss, lle bu’n recriwtio gwirfoddolwyr i gefnogi pobl â nam ar eu clyw fel rhan o agwedd cyfeillio’r gwasanaeth.
 
Yn ddysgwr gydol oes mae Kerry wedi cymhwyso dros y blynyddoedd mewn NVQ Lefel 3 mewn: Busnes a Gweinyddu; Gwasanaeth Cwsmer; Cyngor ac Arweiniad, CACDP Lefel 2 mewn BSL. Mae hi hefyd wedi cymhwyso fel Hyfforddwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Ieuenctid ac wedi ennill profiad a gwybodaeth mewn llawer o bynciau dros y blynyddoedd.
 
Mae ganddi bedwar mab sydd wedi tyfu i fyny a dau o wyrion y mae’n mwynhau treulio ei hamser gyda nhw. Pan nad yw gyda’i theulu, mae’n mwynhau ei dosbarthiadau cadw’n heini a Jive modern. Mae Kerry yn gefnogwr pêl-droed Lerpwl selog ac wrth ei bodd yn gwylio Fformiwla 1.