Dewi Williams


Uwch Strategydd Cyfathrebu

Gyda chyfuniad o brofiad masnachol a dylunio, mae Dewi mewn sefyllfa dda i hyrwyddo’r holl waith hanfodol COS a rhannu ein llwyddiannau.

Ei ffocws i ddechrau fu adeiladu’r wefan, gan sicrhau ei bod yn hawdd ei defnyddio i gleientiaid, y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, yn ogystal â’n partneriaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Yn gerddor brwd, mae Dewi yn chwarae’r bas a’r allweddellau a byddai wrth ei fodd yn ennill yr Eurovision Song Contest. Gallwn ni gyd freuddwydio.